Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (44)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: y wybodaeth ddiweddaraf am Gyngor Sir Ynys Môn (30 munud) |
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (30 munud)
Dogfennau Ategol: Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad blynyddol cyntaf |
5. Dadl ar: Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth (60 munud) NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn trawsnewid perfformiad ysgolion, a 2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid. Mae’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/circulars/practitioners/?skip=1&lang=cy Mae’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar
gyfer athrawon i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn:
http://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2940/contents/made/Welsh Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn: Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o ddysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd. Mae linc isod i adroddiad Estyn: http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011/ Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym Mhwynt 2: Dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod natur ddewisol y cymhwyster gradd Meistr yn golygu efallai na fydd anghenion hyfforddi’r holl athrawon newydd gymhwyso yn cael sylw llawn. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth. Gellir gweld y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth drwy fynd i:
|
6. Dadl ar: Hwyluso’r Drefn – ffordd newydd o reoleiddio yn y Diwydiant Amaeth (60 munud) NDM4907 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Dogfennau
Ategol: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Dileu ‘nodi’ a rhoi 'croesawu' yn ei le. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’n rheolaidd y wybodaeth ddiweddaraf am ei chynnydd at gyflawni pob un o’r 74 o argymhellion yn unol â’r amserlenni ym mharagraff 17.1 o’r Adroddiad. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad yn cydnabod y “Dylid ystyried unrhyw beth yn llai na’r canlyniadau hyn yn fethiant oni bai bod polisïau wedi pennu bod canlyniad gwahanol yn ddymunol.” Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi barn yr adroddiad bod Glastir wedi cael ei
“gyflwyno’n rhy gynnar ac yn frysiog cyn bod cyfle i
ddatblygu manylion polisi’r rhaglen yn iawn mewn partneriaeth
go iawn gyda rhanddeiliaid.” |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 8 Chwefror 2012